GWERSYLL CARAFAN A PHARC GWERSYLLA GOGLEDD CYMRU
Croeso i Bryn Gloch, gwersyll carafan a gwersylla
Mae Bryn Gloch, yn ganolfan wirioneddol hardd ar gyfer carafanio, gwersylla a gwyliau wrth droed yr Wyddfa yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, Gogledd Cymru. Parc sydd wedi ennill gwobrau , mae’r safle ar lannau afon Gwyrfai a golygfeydd rhyfeddol o bob rhan o’r lleoliad.
Cyrchfan dawel,sydd yn berffaith ar gyfer gwyliau teulu. Os oes gennych garafan dynnu, pabell, pabell-drelyr neu gartref modur, neu os ydych am logi un o’n carafanau sefydlog mae Bryn Gloch yn fan unigryw gyda ‘r golygfeydd gwych a’r gweithgareddau hamdden ac awyr agored sydd ar gael yn y fro.
Mae ein llety hunan arlwy yn cynnwys y Byncws, sef uned fawr gyda lle cysgu i 16 o bobl. Hefyd mae gennym nifer o garafanau sefydlog i gysgu 6 yr un.
Mae lleiniau tymhorol i garafanau ar gael hefyd.
Mae’r mynyddoedd a’r llynnoedd a glan y môr i gyd yn agos atoch ac atyniadau arbennig fel Castell Caernarfon a Phorthmeirion.
Agored yn awr.
Ffoniwch ni ar 01286 650216 i weld beth sydd ar gael.












